
GWEITHDREFN CWYNION
i RIENI/GWARCHEIDWAID/GOFALWYR
Os oes gennych unrhyw bryderon neu am gwyno ynghylch y gofal mae eich plentyn neu chi yn ei dderbyn yn Tiddlywinks, dylid dilyn y weithdrefn ganlynol:
- Dylid cael gair anffurfiol â'r person sy'n gofalu'n uniongyrchol am eich plentyn yn Tiddlywinks yn y lle cyntaf. Bydd yr aelod o staff dan sylw yn cofnodi'r gwyn a'r canlyniadau yn y Llyfr Cwynion - gweler y daflen atodedig am gofnod enghreifftiol
- Os na ellir datrys y broblem yn anffurfiol, dylid cysylltu â Chydlynydd/Rheolwr/Gweithiwr Chwarae'r Ganolfan. Rhoddir ateb geiriol o fewn 24 awr ac ymateb ysgrifenedig o fewn 5 niwrnod.
- Os yw problem yn parhau heb ei datrys yna gofynnir i gadeirydd y Pwyllgor Rheoli gyfryngu. Bydd hyn yn digwydd o fewn 7 niwrnod o'r ymateb i bwynt 2. Cadarnheir y canlyniad yn ysgrifenedig o fewn 5 niwrnod o'r cyfarfod hwnnw.
- Tafodir natur y cwynion a sut i'w datrys yn y cyfarfod staff misol a'r cyfarfod Rheoli misol. Cymerir camau adferol ar unwaith os bydd angen.
-
Hoffwn eich atgoffa, os nad ydych yn fodlon ar y modd y mae'r mater dan sylw wedi'i ddatrys neu os credwch na chadwyd at y weithdrefn, neu ar unrhyw adeg arall sy'n briodol yn eich barn chi, gallwch ffonio swyddfa
ranbarthol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar 01267 245160.
ENGHRAIFFT O DAFLEN GOFNODI'R LLYFR CWYNION
|
Dyddiad: Amser: |
|
Enw'r Rhiant/Gwarcheidwad : |
|
Enw'r Plentyn |
|
Aelod o Staff: |
|
Natur y Gwyn::
|
|
Camau Gweithredu a Gymerwyd:
|
|
Canlyniad:
Cyfathrebiadau geiriol (dyddiadau ac amserau)
Cyfathrebiadau ysgrifenedig (dyddiadau ac amserau): |






