CONTRACT GOFAL PLANT

Amodau a Thelerau Cyffredinol

Yn yr amodau a thelerau hyn mae Tiddlywinks', 'Canolfan', rydym ni’ ac 'ein' yn golygu Canolfan Gofal Plant Tiddlywinks Childcare Centre Cyfyngedig, sydd yn 38 Stryd Commercial, Ystalyfera, Abertawe; Mae 'Rhiant, 'Rhieni', neu 'chi' yn golygu'r rhiant(rhieni) neu warcheidwad(aid) neu'r person sy'n gyfrifol am y plentyn sydd wedi'i gofrestru yn Tiddlywinks; ac mae 'plentyn' neu 'plant' yn golygu unrhyw blentyn sydd wedi'i gofrestru yn Tiddlywinks.

  1. Mae ein ffioedd yn berthnasol i'n oriau gweithredu safonol 9.00am to 5.00pm, ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ffioedd ychwanegol yn ddyledus y tu allan i'r oriau hyn. Mae ffioedd yn daladwy fis ymlaen llaw.
  2. Er mwyn cofrestru plentyn yn Tiddlywinks neu roi plentyn ar ein rhestr aros, rhaid i rieni gwblhau ffurflen gofrestru a thalu'r ffi gofrestru berthnasol. Pan gynigir lle, mae blaendal o ffioedd mis yn daladwy ar unwaith er mwyn sicrhau'r lle hwnnw. Sylwer, drwy sicrhau lle i blentyn, mae'n rhaid i ni wrthod rhywun arall. Os ydych am wneud newidiadau o unrhyw fath, hyd yn oed os nad yw eich plentyn wedi ymuno â ni eto, bydd ffi y mis cyntaf yn dal yn daladwy.
  3. Dylid talu ffioedd fis ymlaen llaw, drwy drosglwyddiad banc, siec, talebau gofal plant, archeb sefydlog neu arian parod. Dylid anfon yr holl daliadau, oni bai eu bod drwy drosglwyddiad banc, i'r swyddfa. Gyda thaliadau siec, mae angen enw'r plentyn ar gefn y siec. Dylid rhoi taliadau arian parod mewn amlen gydag enw'r plentyn wedi'i ysgrifennu'n yn glir arni a'i rhoi i'r cydlynydd yn bersonol. Rhoddir derbynneb i chi.
  4. Os bydd unrhyw ffioedd nad ydynt yn cael eu talu neu os yw rhieni'n torri unrhyw un o'r amodau a thelerau hyn, neu rydym yn ystyried bod y camau gweithredu hyn yn angenrheidiol er budd plant eraill neu Tiddlywinks, rydym yn cadw'r hawl i atal neu derfynu lle plentyn ar unwaith.
  5. Dylai rhieni hysbysu Tiddlywinks yn ysgrifenedig am unrhyw newid mewn amgylchiadau personol, cyfeiriad a/neu rifau ffôn cyswllt.
  6. Rhybudd o gyfnod terfynu: Mae angen o leiaf mis o rybudd yn ysgrifenedig.
  7. Mae Tiddlywinks yn cadw'r hawl i adolygu ei ffioedd ar unrhyw adeg.
  8. Ni all Tiddlywinks roi ad-daliadau am unrhyw absenoldeb, beth bynnag yw’r rheswm.
  9. Dylai rhieni ein hysbysu erbyn 9.00am os na fydd eu plentyn yn gallu dod ar y diwrnod.
  10. Rydym yn cadw'r hawl i anfon plentyn adref os ystyrir bod gweithred o'r fath er budd pennaf y plentyn hwnnw neu blant eraill yn ein gofal.
  11. Rhaid i rieni hysbysu'r ganolfan os yw'r plentyn yn datblygu unrhyw glefyd heintus neu haint, gan gynnwys impetigo, llai pen, llyngyr etc. a chytuno i gadw at y telerau eithrio fel a nodir yn ein Polisi Eithrio.
  12. Bydd y ganolfan yn mynd ati I hysbysu rhieni am unrhyw haint neu glefyd heintus sy'n hysbys y maent yn gwybod y gall y plentyn fod wedi bod mewn cysylltiad ag ef.
  13. Rhagdybir bod gan Tiddlywinks ganiatâd i fynd â'r holl blant y tu allan i'r adeilad. Os nad yw rhieni am i'w plentyn gael ei gynnwys mewn unrhyw weithgaredd penodol, rhaid iddynt hysbysu Tiddlywinks yn ysgrifenedig.
  14. Mae Tiddlywinks ar gau ar Wyliau Banc ac am bythefnos dros gyfnod y Nadolig. Fel arfer, ni chodir ffioedd am y cyfnodau hyn.
  15. Sylwer ei bod yn bwysig i'ch plant, ac i'n staff, eich bod yn sicrhau bod eich plentyn/plant yn cael eu casglu'n brydlon. Gwerthfawrogwn y bydd oedi'n anochel ar ambell achlysur, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn hysbysu Tiddlywinks cyn gynted ag y bo modd. Bydd ffi fesul awr am unrhyw oedi wrth gasglu plant.
  16. Mae Tiddlywinks yn disgwyl i blant yn ein gofal gael eu casglu ar yr amser y cytunwyd arno fel a nodwyd yn y contract â chi. Os nad yw hyn yn digwydd am ba reswm bynnag, ac nid ydym wedi clywed gennych eich bod wedi cael eich rhwystro neu y byddwch yn hwyr yn casglu eich plentyn, bydd Tiddlywinks yn tybio bod sefyllfa frys wedi achosi'r oedi a chaiff ein gweithdrefn ar gyfer plant heb eu casglu ei roi ar waith.
  17. Wrth gofrestru plentyn yn Tiddlywinks, bydd Tiddlywinks a'r staff a gyflogir yn gweithredu 'in loco parentis' ar gyfer yr holl amser y bydd y plentyn yn eu gofal yn yr adeilad ac oddi yno, nes bod y rhiant neu gynrychiolydd a enwir yn casglu'r plentyn. Os bydd unrhyw salwch, ddamwain neu argyfwng, bydd gan Tiddlywinks hawl i gymryd y camau gweithredu y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol, gan gynnwys mynd i'r ysbyty os oes angen, hyd yn oed os yw'r rhieni heb gael eu hysbysu eto.
  18. Mae manylion llawn y polisïau a'r gweithdrefnau sydd mewn grym ar hyn o bryd yn Tiddlywinks ar gael yn y ganolfan ac maent wedi'u hamlygu yn y Llawlyfr i Rieni. Dangosir unrhyw ddiwygiadau, amrywiadau neu ychwanegiadau ar Hysbysfyrddau yn Tiddlywinks a chânt eu diweddaru'n achlysurol yn y Llawlyfr i Rieni neu pan fydd yr argraffiad nesaf. Gwneir pob ymdrech i'ch hysbysu ar lafar am y newidiadau hyn cyn gynted ag y bônt yn berthnasol ond eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn darllen y newyddion diweddaraf ar yr Hysbysfwrdd. Ni fydd y Ganolfan yn gyfrifol am eich diffyg gwybodaeth chi, a bod yr wybodaeth honno wedi'i harddangos yn y Ganolfan, wedi'i chyfleu ar lafar neu wedi'i rhoi i chi yn ysgrifenedig.
  19. Os ydych am fynegi pryder ynghylch unrhyw un o'r amodau uchod neu unrhyw fater arall sy'n effeithio ar ofal a lles eich plentyn yn Tiddlywinks, fe'ch cynghorir i ddilyn ein Gweithdrefn Gwynion, y mae copi ohono ar gael i chi. Cofiwch os ydych yn dal yn anfodlon â'r weithdrefn hon neu'n teimlo nad ydych yn gallu trafod y mater yn uniongyrchol â Tiddlywinks, gallwch ffonio swyddfa ranbarthol Arolygiaeth a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar 01267 245160. 

<< Return

 

News

 
 
Mae Tiddlywinks yn rhan o'r Cynnig Gofal Plant Cymru a Dechrau’n Deg.

Mae Tiddlywinks yn rhan o'r Cynnig Gofal Plant Cymru a Dechrau’n Deg.

Mae Tiddlywinks yn rhan o'r Cynnig Gofal Plant Cymru a Dechrau’n Deg.

Clwb Gofal Plant Hanner Tymor 2014

Clwb Gofal Plant Hanner Tymor 2014

Gall plant mwynhau llawr o weithgareddau llawn sbri ....

Cylch Meithrin Tiddlywinks Playgroup

Cylch Meithrin Tiddlywinks Playgroup

Sesiynau yn rhedeg ...